Prosiect ymchwilio a datblygu (R & D) i greu haen o or-realaeth ar benwisg ydy Project Glass (neu Prosiect Gwydr) gan Google. Bwriedir datblygu nwyddau masnachol wedi'i sefydlu ar y feddalwedd presennol a geir mewn ffôn clyfar ar gyfer pâr o sbectol neu benwisg sy'n golygu y byddai'r dwylo'n rhydd. Cysylltir y penwisg (neu bengyfarpar) â'r we a bydd meicroffon ar y penwisg yn caniatáu rhyngweithio e.e. mapiau, cyfarwyddiadau sut i gyrraedd man arbennig neu wybodaeth am wrthrych wedi'i geo-tagio. Mae'r cyfarpar presennol (Rhagfyr 2012) yn cynnwys stribed o aliminiwm ysgafn gyda 2 pad meddal ar bont y trwyn, meicroffon a chamera. Y system weithredu a ddefnyddir ydy Android (eto gan Google). Cyhoeddodd The New York Times y byddai'r penwisg ar werth ar yr un pris a ffôn clyfar tua diwedd 2012. ond mae adroddiadau o ffynonellau eraill yn amau hyn. Ym Mehefin 2012 cyhoeddwyd na fyddai ar werth i'r cyhoedd tan wanwyn 2014 a hynny am oddeutu $1,500.